Eleri Mills: TAITH GELF, Dathlu'r 70 / AN ARTISTIC JOURNEY, A Celebration at 70
ELERI MILLS
TAITH GELF Dathlu'r 70
AN ARTISTIC JOURNEY A Celebration at 70
6 - 28 Medi / September 2025
Rydyn ni’n falch iawn o fod yn cynnal arddangosfa gan Eleri Mills.
Ganed Eleri yn 1955, a chafodd ei magu yng nghefn gwlad canolbarth Cymru. Yn ystod ei phlentyndod, cafodd ei thrwytho’n ddwfn mewn diwylliant o gân, cerddoriaeth a pherfformio sydd, yn ei dro, wedi dylanwadu ar waith sy’n seiliedig ar dirluniau Cymru.
Ers dychwelyd adref yn 1988 ar ôl treulio blynyddoedd ym Manceinion, lle cwblhaodd ei gradd mewn Celf a Dylunio, mae Eleri wedi gwneud enw iddi’i hun fel artist rhyngwladol. Mae ei gweithiau i'w gweld mewn nifer o gasgliadau cenedlaethol, ac mae hi wedi arddangos ei gwaith yn Amgueddfeydd Celf Fodern Kyoto a Tokyo; Museu Tèxtil i d'Indumentària, Barcelona; a'r Museo Nacional de Artes Decorativas ym Madrid. Fe wnaeth Gwobr Llysgennad Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru, a ddyfarnwyd i Eleri yn 2011, gefnogi dau gyfnod preswyl yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ac ym Mhrifysgol Columbia yn Efrog Newydd. Ers hynny, bu’n artist preswyl yn Sanskriti Kendra yn ninas Delhi yn India.
Mae'r arddangosfa hon, gan gynnwys gwaith sy’n ymestyn dros 25 mlynedd (gyda’r cynharaf yn dyddio o 2000), yn dathlu Taith Gelf Eleri Mills ac yn nodi ei phenblwydd yn 70. Peidiwch â’i cholli!
Darllenwch y cyflwyniad gan Mari Griffith
Catalog a delweddau i ddilyn yn fuan
We are delighted to be hosting an exhibition by Eleri Mills.
Born in 1955, Eleri was brought up in rural mid Wales. Her childhood was heavily steeped in a culture of song, music and performance, informing a work that has rooted itself in the firma of modern Welsh landscape painting.
Returning home in 1988 from her formative years in Manchester where she completed her degree in Art and Design, Eleri has since cemented her reputation as an internationally renowned artist. Her work is featured in numerous national collections, and she has exhibited work in the Museums of Modern Art Kyoto and Tokyo, Museu Textil d’Indumentaria, Barcelona and the Museo Nacional de Artes Decorativas, Madrid. The Art Council of Wales Creative Ambassador Award, given to Eleri in 2011, supported two residencies at the Ruthin Craft Centre and at Columbia University in New York. She has since been an artist in residence in Sanskriti Kendra, Delhi, India.
This exhibition, with work that spans 25 years (the earliest dated 2000), celebrates Eleri Mills' Artistic Journey and marks her 70th Birthday. An exhibition not to be missed.
Read the introduction by Mari Griffith
Catalogue and images to follow shortly